Saernïo / Gwneud
Wrth greu’r strwythur sicrheir defnyddio deunydd o’r safon uchaf a rhown bwyslais ar y manion lleiaf. Drwy greu’r ffrâm o dan do ac oddi ar y safle adeiladu crëir adeilad o safon a dilëir amser sylweddol wrth ystyried y problemau cyffredin a geir yn y modd traddodiadol.

Cludo
Symudir y ffrâm yn ofalus ac i’r dyddiad a benodwyd.

 

 

Adeiladu’r ffrâm
Y cam nesaf yw codi’r ffrâm yn ei leoliad terfynol o fewn amser cyfyngedig. Gweithiwn gyda gweithwyr proffesiynol eraill megis sgaffaldwyr a phriddfeinwyr i sicrhau trefn a dilyniant effeithiol a llwyddiannus.